Shaun Edwards a Warren Gatland (llun o wefan URC)
Mae rheolwr cynorthwyol Cymru, Shaun Edwards, wedi dweud y bydd rhaid i’w dîm fod yn fwy cadarn wrth amddiffyn yn y Chwe Gwlad eleni.

Bydd Cymru yn wynebu Lloegr yng ngêm agoriadol pencampwriaeth y Chwe Gwlad nos Wener.

Byddai colli yn erbyn yr hen elyn yn golygu nad ydi tîm Warren Gatland wedi ennill mewn saith gêm brawf.

Mae Lloegr heb ennill yn erbyn Cymru yn Stadiwm y Mileniwm er 2003.

Ond dywedodd Edwards y bydd chwaraewyr gan gynnwys Ben Foden, Chris Ashton a Mark Cueto yn fygythiad i amddiffyn Cymru.

“Roedd Lloegr dda iawn yn gwrthymosod yn erbyn Awstralia – dyna oedd perfformiad gorau’r gwledydd cartref yn ystod gemau’r hydref,” meddai Shaun Edwards.

“Mae chwarteri Lloegr yn dda iawn pan mae’r gwrthwynebwyr yn colli’r bêl ac felly fe fydd yn rhaid i ni amddiffyn yn well.

“Dyna oedd ein prif wendid yn ystod gemau rhyngwladol yr hydref. Fe fydd rhaid i ni ymateb yn llawer cyflymach ar ôl colli’r bel.”