Fe fydd aelodau Clwb Rygbi Cymry Caerdydd yn rhedeg pellter o 1030 o filltiroedd – y pellter yr holl ffordd o amgylch Cymru – rhyngyddyn nhw yr wythnos nesaf er mwyn codi arian i’r Gwasanaeth Iechyd.

Bydd yr arian sy’n cael ei godi yn cael ei roi i’r Gwasanaeth Iechyd a’r gymuned leol yng Nghaerdydd.

Roedd y clwb eisoes wedi codi £2,000 a’i ddefnyddio i anfon bwyd a diod i Ysbyty Prifysgol Cymru, prynu bagiau golchadwy i weithwyr gofal iechyd yn ogystal â phrintio mygydau wyneb 3D i’w hanfon i gartrefi gofal lleol.

Mae gan y clwb tua 100 o chwaraewyr, tua 150 yn chwarae i’r adran iau, a 30 o ferched.

‘Clwb cymunedol’

“Rydan ni’n glwb cymunedol ac felly roedden ni wedi gosod targed o godi cwpwl o gannoedd i’r gymuned, ond fe lwyddon ni i godi £2,000 yn reit gyflym,” meddai Jac Evans, un o chwaraewyr y clwb, wrth golwg360.

“Felly daeth tua phump neu chwech ohonom ni ar zoom a thrafod beth y gallen ni ei wneud i godi arian i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

“Roeddem ni’n meddwl fod rhedeg y pellter o gwmpas Cymru yn ffordd wahanol o godi’r arian.

“Rydym wedi gosod targed o £5,000 ond yn amlwg rydym yn ceisio codi gymaint o arian â ’dan ni’n gallu.”