Mae nifer o gemau rygbi a phêl-droed wedi cael eu canslo heddiw (dydd Sadwrn, Chwefror 15) oherwydd Storm Dennis.

Mae’r gêm rygbi rhwng y Dreigiau a Benetton yn y PRO14 ymhlith y gemau mwyaf sydd wedi cael eu canslo.

Yn Uwch Gynghrair Cymru, mae’r gemau rhwng Aberfan a Phontypridd, a Glyn Ebwy a Chaerdydd wedi’u gohirio, a fydd y gêm rhwng Casnewydd a Llanymddyfri ddim yn cael ei chynnal yfory (dydd Sul, Chwefror 16).

Yn y byd pêl-droed, bu’n rhaid gohirio gêm Wrecsam yn erbyn Torquay ar y Cae Ras oherwydd pryderon am gefnogwyr Torquay yn teithio i’r gogledd.

Yn Uwch Gynghrair Cymru, mae nifer o gemau wedi cael eu canslo, sef:

  • Y Derwyddon Cefn v Penybont
  • Y Drenewydd v Y Barri
  • Caerfyrddin v Met Caerdydd