Mae’n bosib y bydd Jonathan Davies yn holliach ar gyfer yr ornest rhwng Cymru a De Affrica yn rownd gynderfynol Cwpan Rygbi’r Byd ddydd Sul (Hydref 27).

Roedd anaf i’w ben glin wedi golygu nad oedd y canolwr wedi bod yn rhan o’r fuddugoliaeth o 20-19 yn erbyn Ffrainc.

“Gobeithio efo digon o orffwys bydd o ar gael wythnos nesaf,” meddai’r hyfforddwr Warren Gatland.

“Doedd Jonathan ddim ymhell o fod yn iawn ond mi wnaeth o’r penderfyniad oedd orau i’r tîm.”