Fe fydd Alun Wyn Jones yn efelychu record capiau Cymru, wrth iddo arwain ei wlad yn eu gêm gyntaf yng Nghwpan Rygbi’r Byd yn erbyn Georgia ddydd Llun (Medi 23).

Fe fydd yn mynd yn gyfartal â Gethin Jenkins wrth ennill cap rhif 129, wrth i’r prif hyfforddwr Warren Gatland ddweud ei fod e’n “haeddu’r holl anrhydeddau”.

“Mae e wedi bod yn hollol ragorol,” meddai.

“Mae e wedi gwella gydag oedran, mae e fel gwin da.

“Mae e wedi bod yn was ffyddlon i rygbi yng Nghymru.

“Y peth sy’n fy mhlesio i yw nad dim ond yng Nghymru mae e wedi cael ei gydnabod, ond ar draws y byd.

“Mae pobol yn cydnabod ei gyfraniad i rygbi’r byd, yn ei berfformiadau a’i arweiniad.

“Mae’n destun balchder gweld rhywun o Gymru’n cael ei gydnabod yn un o’r chwaraewyr gorau yn ei safle.”

Gweddill y tîm

Bydd Aaron Wainwright yn ymddangos yng Nghwpan y Byd am y tro cyntaf erioed, wrth gymryd ei le yn y rheng ôl, ochr yn ochr â Justin Tipuric a Josh Navidi, gyda Ross Moriarty ar y fainc.

Hefyd yn y tîm mae chwaraewyr y Llewod, Liam Williams, George North, Jonathan Davies a Ken Owens.

Mae’r prop Wyn Jones hefyd yn chwarae yng Nghwpan y Byd am y tro cyntaf, gydag Aaron Shingler hefyd yn ymddangos am y tro cyntaf ar y fainc.

Helynt Rob Howley

Daw’r gêm gyntaf ar ddiwedd wythnos gythryblus i Gymru, ar ôl i Rob Howley gael ei anfon adref yn sgil honiadau ei fod e wedi torri rheolau betio.

Mae Stephen Jones, fydd yn aelod o dîm y prif hyfforddwr newydd Wayne Pivac, yn ymuno â’r tîm hyfforddi’n gynnar.

Tîm Cymru: L Williams, G North, J Davies, H Parkes, J Adams, D Biggar, G Davies; W Jones, K Owens, T Francis, J Ball, A W Jones (capten), A Wainwright, J Tipuric, J Navidi.

Eilyddion: E Dee, N Smith, D Lewis, A Shingler, R Moriarty, T Williams, R Patchell, L Halfpenny.