Mae Warren Gatland yn gwneud 15 newid i gêm baratoi olaf Cymry cyn Cwpan y Byd.

Mae Rhys Patchell wedi dioddef tymor yn llawn anafiadau a heb ddechrau gêm dros ei wlad ers Mehefin 2018.

Yn ogystal â Rhys Patchell, bydd y capten Alun Wyn Jones, yr asgellwr Goerge North, a’r canolwr Jonathan Davies yn dechrau mewn tîm cryf iawn.

“Hon yw ein gêm baratoi olaf,” meddai Warren Gatland. “Mae hi’n bwysig ein bod yn chwarae digon o rygbi cyn ein gêm agoriadol yn erbyn Georgia, sydd ychydig dros bythefnos i ffwrdd.”

Cyfle olaf i greu argraff

Yn ôl Warren Gatland mae dydd Sadwrn yn gyfle gwych i’r chwaraewyr wneud eu hachos dros ddechrau’r gêm agoriadol yn erbyn Georgia.

Dywed: “Mae hi wedi bod yn wythnos fawr, ac mae hwn yn gyfle i’r chwaraewyr roi ei llaw fyny a sicrhau lle yn y XV fydd yn dechrau yn Japan.”