Cymro fydd yn dyfarnu’r gêm rhwng ei wlad ei hun a’r Barbariaid ar Dachwedd 30.

Mae’r corff sy’n rheoli rygbi’r byd wedi cadarnhau eu bod nhw’n fodlon “goddef” i Nigel Owens gael dyfarnu’r gêm – y tro cyntaf i ddyfarnwr gael yr hawl i goruchwylio gêm lle mae ei wlad ei hun yn chwarae

Mae Undeb Rygbi Cymru yn nodi fod hynny’n dangos pa mor uchel ei barch yw’r dyfarnwr o Fynydd Cerrig yng Nghwm Gwendraeth ar y llwyfan rhyngwladol.

Hon fydd gêm gynaf Cymru dan y rheolwr, Wayne Pivac, sy’n olynu Warren Gatland yn brif hyfforddwr Cymru ar ôl Cwpan y Byd. Warren Gatland sydd wedi cael y gwaith o arwain y Barbariaid.