Mae dau wyneb newydd wedi eu cynnwys yn y tîm a fydd yn herio Iwerddon dros y penwythnos.

Y gêm gyfeillgar yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn (Awst 31) fydd y tro cyntaf i’r prop Rhys Carre a’r asgellwr, Owen Lane, ymddangos yn y crys coch.

Bydd Rhys Carre yn ffurfio’r rheng flaen yng nghwmni Ryan Elias a Samson Beard, tra bo Adam Beard a Bradley Davies yn yr ail reng.

Yn y rheng ôl fydd capten y tîm, Josh Navidi, yn ogystal â Aaron Shingler a James Davies.

O ran gweddill y tîm wedyn, fe fydd Jarrod Evans yng nghrys rhif 10 yng nghwmni Aled Davies yng nghrys rhif 9.

Owen Watkin a Scott Williams fydd y ddau ganolwr, tra bydd Owen Lane, Steff Evans a Hallam Amos yn ffurfio gweddill y cefnwyr.

Yn ôl prif hyfforddwr Cymru, Warren Gatland, mae’r gêm ddydd Sadwrn yn un “enfawr”, gyda chyfle i chwaraewyr brofi eu hunain cyn pencampwriaeth Cwpan y Byd yn yr hydref.

Y tîm

Hallam Amos (Y Gleision); Owen Lane (Y Gleision), Scott Williams (Y Gweilch), Owen Watkin (Y Gweilch), Steff Evans (Scarlets); Jarrod Evans (Y Gleision), Aled Davies (Y Gweilch); Rhys Carre (Saraseniaid), Ryan Elias (Scarlets, Samson Lee (Scarlets), Adam beard (Y Gweilch), Bradley Davies (Y Gweilch), Aaron Shingler (Scarlets), James Davies (Scarlets), Josh Navidi (c., Y Geision).

Ar y fainc

Elliot Dee (Y Dreigiau), Rob Evans (Scarlets), Leon Brown (Y Dreigiau), Jake Ball (Scarlets), Ross Moriarty (Dreigiau), Tomos Williams (Y Gleision), Rhys Patchell (Scarlets), Jonah Holmes (Caerlŷr).