Mae Alun Wyn Jones wedi cael ei enwi yn chwaraewr rygbi gorau’r byd gan gylchgrawn Rugby World.

Mae capten Cymru, 33, ar frig rhestr sy’n cynnwys 100 o chwaraewyr presennol y gamp a gafodd eu dewis gan banel o arbenigwyr.

Ymhlith y chwaraewyr eraill sydd ar frig y rhestr mae maswr Seland Newydd, Beauden Barrett, a phrop Lloegr, Mako Vunipola.

Roedd panel yr arbenigwyr yn cynnwys yr hyfforddwr rygbi saith bob ochr, Ben Ryan, Cyfarwyddwr Rygbi Merched y Wasps, Giselle Mather, y darlledwr, Ross Harries, a’r awdur o Seland Newydd, Liam Napier.

Roedd tîm golygyddol Rugby World hefyd yn aelodau o’r panel.

“Mae [Alun Wyn Jones] fel gliw i unrhyw dîm y mae’n aelod ohono – yn gadarn yn ystod yr adegau anoddaf ac mae hefyd yn dyrchafu unrhyw un sydd o’i gwmpas,” meddai Ben Ryan.

“Mae [Alun Wyn Jones] yn arwain ar y blaen gyda’r lefel uchaf o ddyfeisgarwch, clyfrwch a dewrder, sy’n bethau prin, hyd yn oed ymhlith y chwaraewyr gorau.”

Y deg chwaraewr gorau yn y byd, yn ôl rhestr Rugby World, yw:

  1. Alun Wyn Jones;
  2. Beauden Barret;
  3. Mako Vunipola;
  4. Brodie Retallick;
  5. Liam Williams;
  6. Owen Farrell;
  7. Ben Smith;
  8. Finn Russell;
  9. Viliame Mata;
  10. Tadhg Furlong.