Mae Dale McIntosh, prif hyfforddwr tîm rygbi Merthyr Tudful, wedi canmol ysbryd y garfan ar ôl iddyn nhw godi tlws Uwch Gynghrair Cymru am y trydydd tymor yn olynol.

Cipion nhw fuddugoliaeth o 28-24 dros Rygbi Gogledd Cymru wrth i Matt Dwyer groesi am gais yn yr amser a ganiateir am anafiadau.

Daw’r fuddugoliaeth er i Rygbi Gogledd Cymru fynd ar y blaen o 14-0 ar ôl pum munud.

Roedden nhw’n gyfartal 21-21 yn niwedd y gêm ar ôl i’r prop Louis Jones sgorio dau gais.

Ond roedd y gogleddwyr ar y blaen unwaith eto ar ôl i Billy McBryde groesi, cyn i Ferthyr gicio ciciau cosb i ddod â nhw o fewn cyrraedd unwaith eto.

Bydd tymor Merthyr yn gorffen ym Mhontypridd nos Wener nesaf, wrth i Dale McIntosh ddychwelyd i’w hen glwb yn Heol Sardis i ddathlu.

‘Uffar o gêm’

“Roedd hi’n uffar o gêm,” meddai Dale McIntosh.

“Dw i mor falch nad oes angen i ni fynd i Bontypridd a cheisio ennill y gynghrair oherwydd fydden ni ddim wedi cael llawer [o help] ganddyn nhw.

“I grynhoi’r cyfan, fe gymerodd hi dîm cyfan i’w gwthio nhw’n ôl dros y llinell, a dyna rydyn ni’n ei wneud.

“Ry’n ni’n griw agos iawn.

“Ry’n ni wedi cael anafiadau anghredadwy, gyda chwe phrop yn mynd i lawr.

“Allwn ni ddim dibynnu ar ddod â chwaraewyr y Gleision i mewn o gwbl. Ry’n ni’n gorfod dibynnu ar chwaraewyr Abercwmboi, Beddllwynog, Aberhonddu, Ynysybwl, y clybiau lleol i gyd.

“Mae wedi bod yn dymor hir ac anodd, felly mae hyn yn gwbl haeddiannol.”

Y dyddiau da

Mae Dale McIntosh yn cymharu’r llwyddiant diweddaraf i Ferthyr gyda’i ddyddiau’n aelod o dîm llwyddiannus Pontypridd cyn dyddiau’r rhanbarthau.

“Dw i’r un mor falch ag oeddwn ni pan o’n i ym Mhontypridd,” meddai.

“Allai neb ein cyffwrdd ni, ac fe chwaraeon ni rygbi arbennig o dda, ac roedd gyda ni chwaraewyr enfawr oedd yn chwarae yn enw’r bathodyn.

“Heno, fe deimlais i gryn dipyn o hynny eto.”