Mae Cymru yn edrych yn gyffyrddus iawn yn yr ornest rygbi yn erbyn yr Alban yn Murrayfield y prynhawn yma,

Ar hanner amser y sgôr ydi 6-15 gyda Chymru wedi rheoli y rhan fwyaf o’r gêm – er i’r Albanwyr ddangos eu medrau yn y munudau cyntaf.

Sgoriodd Josh Adams berl o gais gyda Jonathan Davies yn sgorio’r ail i Gymru. Mae Cymru wedi dangos eu cryfder gan redeg gyda’r bêl yn bwerus a chyflym.

Gyda gobaith y garfan o ennill y Gamp Lawn yn fyw, mae pawb nawr yn edrych ymlaen at yr ail hanner.

Fe fyddai buddugoliaeth heddiw yn golygu y bydd Cymru gam yn nes at sicrhau’r Gamp Lawn, gydag un gêm yn weddill yn erbyn Iwerddon ar benwythnos olaf y bencampwriaeth.

Yn y cyfamser, ennillodd merched Cymru oddi cartref yng Nglasgow nos Wener gan guro merched Yr Alban 15-17. Collodd tîm Dan Ugain dynion Cymru o 27-20 yng Nghaeredin.