Mae Warren Gatland, prif hyfforddwr tîm rygbi Cymru, yn dweud mai gêm gyntaf Pencampwriaeth y Chwe Gwlad fydd yr un allweddol, pryd y bydd Cymru’n teithio i ddinas Paris ar Chwefror 1.

Byddan nhw wedyn yn teithio i Rufain i herio’r Eidal (Chwefror 9), yn croesawu Lloegr i Gaerdydd (Chwefror 23) ac yn teithio i Gaeredin i herio’r Alban (Mawrth 9) cyn y gêm olaf yn erbyn Iwerddon yng Nghaerdydd ar Fawrth 16.

“Y gêm gyntaf honno fydd y galetaf,” meddai Warren Gatland. “Rydyn ni’n teimlo ein bod ni mewn cystal sefyllfa ag unrhyw un i wneud yn dda.

“Y peth pwysig yn y Chwe Gwlad yw momentwm. Os gallwch chi ennill eich gemau cyntaf, yna mae gyda chi gyfle gwych i fod yn ei chanol hi ar y penwythnos olaf.”

Y garfan

Mae Warren Gatland wedi enwi carfan o 39 o chwaraewyr, yn hytrach na’r 40 gwreiddiol, ar ôl i’r wythwr Taulupe Faletau dorri ei fraich am yr ail waith y tymor hwn, a chael gwybod na fydd e ar gael i chwarae yn y gystadleuaeth.

Ond mae newyddion gwell i’r cefnwr Leigh Halfpenny, sydd ar gael er nad yw e wedi chwarae i Gymru ers curo Awstralia ar Dachwedd 10. Mae e wedi gwella o anaf i’w ben, yn dilyn pryderon am gyfergyd.

Ymhlith y rhai nad oes sicrwydd y byddan nhw’n holliach, er eu bod nhw yn y garfan, mae’r ddau faswr Dan Biggar a Rhys Patchell, y clo Adam Beard a’r wythwr Ross Moriarty.

Y garfan

Blaenwyr: Rob Evans, Wyn Jones, Nicky Smith, Elliot Dee, Ryan Elias, Ken Owens, Leon Brown, Tomas Francis, Samson Lee, Dillon Lewis, Jake Ball, Adam Beard, Seb Davies, Cory Hill, Alun Wyn Jones, Ross Moriarty, Josh Navidi, Justin Tipuric, Josh Turnbull, Aaron Wainwright, Thomas Young.

Olwyr: Aled Davies, Gareth Davies, Tomos Williams, Gareth Anscombe, Dan Biggar, Jarrod Evans, Rhys Patchell, Jonathan Davies, Hadleigh Parkes, Owen Watkin, Scott Williams, Hallam Amos, Steffan Evans, Leigh Halfpenny, Jonah Holmes, George North, Liam Williams.