Gweilch 20–29 Glasgow
Sgoriodd Nikola Matawalu dri chais wrth i Glasgow drechu’r Gweilch ar y Liberty yn y Guinness Pro14 nos Wener.
Ni wnaeth y gŵr o Fiji ddechrau’r gêm ond llwyddodd i sgorio hatric o geisiau ar ôl dod i’r cae fel eilydd cynnar.
Rhoddod cais cynnar Olly Cracknell y Gweilch ar y blaen ond tarodd Glasgow yn ôl gyda dau i Matawalu yn y chwarter awr cyntaf, wedi iddo ddod i’r cae yn dilyn anaf i Ruaridh Jackson yn y munudau agoridol.
Llwyddodd Brandon Thompson gyda’r ddau drosiad, i ychwanegu at ei gic gosb gynharach, ac roedd yr ymwelwyr saith pwynt ar y blaen ar yr egwyl, 10-17 y sgôr.
Caeodd Sam Davies y bwlch gyda chic gosb yn gynnar yn yr ail hanner cyn i Matawalu gwblhau ei hatric yn fuan wedyn.
Rhoddodd cais Nick Grigg hanner ffordd trwy’r ail hanner bwynt bonws i Glasgow a golau dydd rhwng y ddau dîm, a chais cysur yn unig a oedd ymdrech hwyr Hanno Dirksen i’r tîm cartref.
Mae’r Gweilch yn aros yn ail yng nghyngres A y Pro14 er gwaethaf y golled ond mae naw pwynt bellach yn eu gwahanu hwy a Glasgow ar y brig.
.
Gweilch
Ceisiau: Olly Cracknell 7’, Hanno Dirksen 75’
Trosiadau: Sam Davies 8’, 75’
Ciciau Cosb: Sam Davies 26’, 47’
.
Glasgow
Ceisiau: Nikola Matawalu 12’, 15’, 49’, Nick Grigg 59’
Trosiadau: Brandon Thompson 13’, 16’, 60’
Cic Gosb: Brandon Thompson 4’