Fe fydd y bachwr Ken Owens yn dychwelyd i dîm rygbi’r Scarlets i’w harwain yn eu gêm gyntaf yn y PRO14 oddi cartref yn Ulster heddiw (Medi 1, 5.15).

Ond mae rhestr hir o chwaraewyr sydd allan oherwydd anafiadau – yn eu plith mae Jake Ball, Leigh Halfpenny, Wyn Jones, Samson Lee, Hadleigh Parkes ac Aaron Shingler.

Mae gan Ulster record dda ar eu tomen eu hunain yn y gynghrair. Y Scarlets yw’r unig dîm o Gymru a lwyddodd i’w curo gartref ers mis Chwefror 2013. Daeth y fuddugoliaeth honno ym mis Chwefror 2016, a hynny o drwch blewyn.

Roedd y Gwyddelod yn ddi-guro yn eu pum gêm ola’r tymor diwethaf, gan golli ddwywaith yn unig yn Stadiwm Kingspan.

‘Her dda’

Yn ôl Wayne Pivac, prif hyfforddwr y Scarlets a phrif hyfforddwr nesaf Cymru, fe fydd y gêm yn “her dda” i’w dîm ar ddechrau’r tymor newydd.

“Maen nhw fwy na thebyg mewn sefyllfa debyg i ni, ac mi fydd yn eitha cyfartal.

“Dw i ddim yn credu bod unrhyw un yn disgwyl chwarae rygbi ffeinal fawr yn y rownd gyntaf.

“Dydyn ni’n sicr ddim yn disgwyl cyrraedd y nod yn y rowndiau agoriadol. I ni, amseru yw’r peth pwysig ac o ran yr anafiadau sydd gyda ni a’r dyddiadau dychwelyd ar ôl yr anafiadau hynny, ry’n ni’n disgwyl cryfhau wrth i ni fynd yn ein blaenau.”

Mae’r gêm yn fyw ar S4C.