Mae tîm rygbi’r Gweilch “wrth eu bodd”, yn ôl y prif hyfforddwr Allen Clarke, ar ôl iddyn nhw guro Caeredin o 17-13 yn Stadiwm Liberty nos Wener i ddechrau eu hymgyrch yn y PRO14.
Roedd y gêm yn gyfartal 3-3 ar yr hanner, a’r Albanwyr ar y blaen o 6-3 gydag ychydig dros ugain munud o’r gêm yn weddill.
Ond fe groesodd George North am ddau gais yn hwyr yn y gêm i sichrau’r fuddugoliaeth, ac yntau’n gwisgo crys y Gweilch am y tro cyntaf.
Trosodd Sam Davis y ddau gais i gyrraedd 500 o bwyntiau yn y gynghrair, y trydydd chwaraewr o’r Gweilch i gyflawni’r gamp honno yn hanes y gystadleuaeth.
Daeth cais hwyr i’r Albanwyr drwy Blair Kinghorn a Jaco van der Walt yn ei drosi ond ar ddiwedd y gêm, y Cymry oedd yn dathlu ar ôl sicrhau buddugoliaeth ar y diwrnod cyntaf am y pedwerydd tymor yn olynol.
‘Amlinellu bwriad’
Ar ddiwedd y gêm, dywedodd prif hyfforddwr y Gweilch, Allen Clarke, “Rydyn ni wrth ein boddau gyda’r fuddugoliaeth, ac roedden ni’n teimlo ein bod ni’n ei haeddu.
“Ond roedd hi’n gêm ochelgar. I ni fel tîm, fe wnaethon ni amlinellu ein bwriad yn nhermau’r rygbi ry’n ni’n ceisio’i chwarae gyda’r bêl a hebddi.
“Wedi dweud hynny, ry’n ni’n gwybod fod yna feysydd lle gallwn ni wella yn mynd i mewn i’r wythnos nesaf [gartref yn erbyn y Cheetahs].
“Ond ry’n ni’n bles dros ben o fod wedi sicrhau’r fuddugoliaeth, yn enwedig gartref, ac yn enwedig gan mai hon oedd gêm gynta’r tymor.”
Arwydd o welliant
Yn ôl Allen Clarke, mae’r fuddugoliaeth yn dangos pa mor bell mae’r garfan wedi dod ers y tymor diwethaf.
“Roedd hi’n gêm y bydden ni fwy na thebyg wedi ei cholli’r tymor diwethaf.
“Bydden ni wedi mynd yn rhwystredig, a bydden ni wedi cwrso pethau, a bydden ni wedi chwarae y tu allan i’r sgript.
“Fel criw, ry’n ni’n falch iawn ohonon ni ein hunain, ac yn falch o safbwynt ein cefnogwyr hefyd.”