Martyn Williams
Mae’r chwaraewr rygbi rhyngwladol, Martyn Williams, wedi torri ei fraich ac yn debyg o fod allan o’r gêm am chwech wythnos.

Fe ddigwyddodd yr anaf yn ystod gêm y Gleision yn erbyn Ulster nos Wener ac fe ddaeth cadarnhad o’i ddifrifoldeb mewn datganiad heddiw.

Roedd Martyn Williams eisoes wedi cael un siom dros yr ha’ wrth gael ei hepgor o garfan Cymru ar gyfer Cwpan y Byd, ac yntau wedi cael 99 cap.

Roedd rhaid iddo adael y cae nos Wener ar ôl 67 munud.