Mae prif hyfforddwr rhanbarth rygbi’r Scarlets yn disgwyl “her fawr” yn erbyn Leinster yn ffeinal y PRO14 yn Nulyn nos Sadwrn (6pm, S4C).

Y Scarlets oedd pencampwyr y PRO12 y tymor diwethaf, ac fe fyddan nhw’n herio pencampwyr Ewrop wrth i’r Cymry geisio talu’r pwyth am y golled o 38-16 yn rownd gyn-derfynol Cwpan Pencampwyr Ewrop bum wythnos yn ôl.

“Maen nhw’n dîm da iawn,” meddai Wayne Pivac.

“Does ond angen i ni edrych yn ôl ar ein gêm gyn-derfynol lle cawson ni ein trechu’n llwyr.

“Maen nhw wedi mynd ymlaen i ennill y wobr fawr a chael eu coroni’n bencampwyr Ewrop, ac yn haeddiannol felly.”

Ychwanegodd ei fod yn “disgwyl gêm anferth”, a’i bod yn “her anferth”, ond fod rhaid “ennill yn erbyn y goreuon” er mwyn bod yn bencampwyr.

Y timau

Mae’r canolwr Hadleigh Parkes yn chwarae yn ei ganfed gêm dros y rhanbarth, a’r cefnwr Leigh Halfpenny yn dychwelyd ar ôl gwella o anaf i linyn y gâr.

Mae Johnny McNicholl yn symud i’r asgell a Tadhg Beirne yn chwarae yn safle’r wythwr yn lle John Barclay. Mae Lewis Rawlins yn dechrau yn yr ail reng wrth ochr Steve Cummins.

Hon fydd gêm olaf Tadhg Beirne cyn iddo symud at ranbarth Munster y tymor nesaf.

Mae’r maswr Johnny Sexton wedi gwella o anaf i gesail y forddwyd i wisgo crys rhif 10 Leinster, ond mae’r canolwr Robbie Henshaw wedi anafu ei benglin. Bydd y capten Isa Nacewa yn chwarae yn safle’r canolwr am y tro olaf wrth iddo ymddeol.