Daeth cadarnhad y bydd George North yn chwarae i ranbarth y Gweilch y tymor nesaf.

Fe fu ansicrwydd am ei ddyfodol ers mis Tachwedd, pan lofnododd e gytundeb deuol gydag Undeb Rygbi Cymru.

Mae e wedi ennill 76 o gapiau dros ei wlad, ac fe ddywedodd ei fod yn edrych ymlaen at “bennod newydd” yn ei yrfa.

“Dw i’n credu bod gan y Gweilch ddyfodol cyffrous gyda’r strwythur a’r recriwtio maen nhw wedi ei roi ar waith a dw i’n edrych ymlaen at gydweithio ag Allen [Clarke, y prif hyfforddwr newydd] a’r garfan dros yr haf.”

Daw’r cyhoeddiad yn fuan ar ôl i’r rhanbarth gyhoeddi eu bod wedi penodi Allen Clarke yn brif hyfforddwr parhaol yn dilyn tri mis llwyddiannus wrth y llyw.

Ychwanegodd George North: “Roedd yn benderfyniad positif iawn i fi lofnodi Cytundeb Deuol Cenedlaethol efo’r gefnogaeth a’r strwythur mae’n ei gynnig.

“Dw i wedi cydweithio efo Undeb Rygbi Cymru i gwblhau fy mhenderfyniad ynghylch pa ranbarth [fyddai’n symud iddo] a hoffwn ddiolch i bawb oedd ynghlwm yn hynny.

“Dw i’n edrych ymlaen at ddod yn Walch.”