Mae clwb rygbi’r Gweilch wedi arwyddo Giorgi Nemsadze, capten tîm cenedlaethol Georgia, ar ddêl tymor byr sy’n para tan ddiwedd y tymor.

Gall y capten profiadol chwarae yn yr ail reng ac fel blaenwr, a bydd ei bresenoldeb yn cynnig dewis arall ar gyfer wythnosau olaf prysur y tymor.

Mae Giorgi Nemsadze yn chwe throedfedd a phedair modfedd ac yn pwyso 18 stôn.

“Bydd Giorgi yn ychwanegu at y dyfnder a’r profiad sydd ar gael i’r hyfforddwyr ar adeg hanfodol o’r tymor,” meddai Dan Griffiths, Rheolwr Rygbi Cyffredinol y Gweilch.

Ar hyn o bryd mae Georgia yn 12fed yn Safleoedd Rygbi’r Byd uwchben Canada, yr Eidal, Rwsia, Samoa, Tonga a’r UDA.