Mae asgellwr tîm rygbi Cymru George North wedi cael ei ddisgyblu gan ei glwb Northampton am golli sesiwn hyfforddi cyn eu gêm yn erbyn Sale ar Fawrth 3.

Fe awgrymodd yr hyfforddwr, Alan Gaffney, ar ôl y gêm nad oedd George North am chwarae, gan ddweud gan ddweud ei fod wedi “dewis tîm oedd eisiau bod ar y cae’r diwrnod hwnnw”.

Bydd y chwaraewr 25 oed yn gadael Northampton ddiwedd y tymor ac yn dychwelyd i Gymru i chwarae.

“Mae George yn derbyn y camau disgyblu sydd wedi’u cymryd ganddon ni,” meddai prif weithredwr clwb yr Uwch Gynghrair, Mark Darbon.

“Mae gan George gariad enfawr at y clwb hwn a’i gefnogwyr, ac mae’n gwbwl ymrwymedig i helpu’r clwb i orffen tymor yr Uwch Gynghrair mor gryf â phosib.

“Rydyn ni nawr yn ystyried bod y mater hwn wedi’i ddatrys ac ni fyddwn yn rhoi sylw pellach.”