Mae hyfforddwr rygbi Cymru, Warren Gatland, wedi gwneud saith newid i’r tîm cyn gêm derfynol y Chwe Gwlad yn erbyn Ffrainc ddydd Sadwrn.
Bydd y capten, Alun Wyn Jones yn dychwelyd i herio’r Ffrancwyr yng Nghaerdydd, yn dilyn hoe o’r gêm yn erbyn yr Eidal yr wythnos ddiwethaf.
Gydag e, fe fydd y cefnwr Leigh Halfpenny, y canolwr Scott Williams, y maswr Dan Biggar a Josh Navidi yn flaenasgellwr, hefyd yn ôl yn y crys coch.
Mae Dan Biggar yn dychwelyd i’r crys rhif 10, gan ddod yn lle Gareth Anscombe yn dilyn y fuddugoliaeth 38-14 yn erbyn yr Eidal.
Bydd Rob Evans a Ken Owens hefyd yn ymuno â’r tîm.
“Dewisiadau anodd”
“Mae dydd Sadwrn yn gyfle anferth i ni orffen yr ymgyrch yn dda a hynny adre’ o flaen ein cefnogwyr,” meddai Warren Gatland.
“Bydd Ffrainc yn dod i Gaerdydd mewn hwyliau da ar ôl ennill yn erbyn Lloegr y penwythnos diwethaf, felly mae disgwyl [i’r gêm] fod yn anferth.
“Mae dewisiadau anodd wedi cael eu gwneud, ond dyna’r union beth rydym ni eisiau… rydym ni wedi dewis tîm a charfan rydym ni’n credu y gall delifro y penwythnos hwn yn erbyn Ffrainc.”
Ymhlith y rhai ar y fainc mae Samson Lee, a gollodd y gêm yn erbyn yr Eidal am ei fod yn sâl; Gareth Anscombe, Aaron Shingler, Aled Davies a Steff Evans.
Dyw Cymru heb golli i Ffrainc mewn gêm gartref ers 2010 – felly mae gobeithio y gall hawlio’r ail le ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad y tu ôl i Iwerddon.
Y tîm yn llawn
Leigh Halfpenny – George North – Scott Williams – Hadleigh Parkes – Liam Williams – Dan Biggar – Gareth Davies –
Rob Evans – Ken Owens – Tomas Francis – Cory Hill – Alun Wyn Jones – Justin Tipuric – Josh Navidi –
Taulupe Faletau
Eilyddion
Elliot Dee – Nicky Smith – Samson Lee – Bradley Davies – Aaron Shingler – Aled Davies – Gareth Anscombe –
Steff Evans