Mae prif hyfforddwr tîm rygbi merched Cymru, Rowland Phillips wedi dweud eu bod nhw’n agos at gyrraedd eu potensial fel tîm.
Byddan nhw’n herio’r Eidal yn Stadiwm Principality heddiw (11.45) cyn i ddynion y ddwy wlad herio’i gilydd.
Mae’r merched eisoes wedi curo’r Alban, ond fe gollon nhw eu dwy gêm ddiwethaf yn erbyn Lloegr ac Iwerddon.
Serch hynny, mae Rowland Phillips yn gobeithio y bydd y diwrnod arbennig heddiw’n gyfle i sbarduno’r tîm.
“Dw i’n credu bod y tîm yn agos iawn at gyrraedd eu potensial, a fydd yn mynd â ni i lefel arall. Fel hyfforddwr, os yw eich tîm yn creu cyfleoedd, mae’n beth positif dros ben, ond bydd canlyniadau’n dod ar sail sut y’n ni’n cymryd y cyfleoedd hyn.
“Bydd disgwyliad o gael canlyniad arall yn erbyn yr Eidal, ond mae angen i ni sicrhau ein bod ni’n cael ein prosesau’n gywir i fanteisio ar gyfleoedd.”
Y tîm
Mae’r fewnwraig Keira Bevan a’r asgellwraig Jaz Joyce wedi’u cynnwys yn y tîm am y tro cyntaf eleni.
Jess Kavanagh-Williams yw’r unig chwaraewr o blith y tri ôl sydd wedi cadw eu lle, wrth i Hannah Jones ddechrau yn safle’r gefnwraig, a Jaz Joyce ar yr asgell dde.
Daw Robyn Wilkins i mewn i safle’r ganolwraig.