Bydd gêm merched Cymru a’r Eidal yn cael ei darlledu’n fyw ar BBC2 fore Sul.

Mae’r mewnwr Keira Bevan a’r asgellwr Jaz Joyce yn dychwelyd i’r tîm ar gyfer yr ornest.

Daw Keira Bevan yn ôl ar ôl anafu ei ffêr tra bod Jaz Joyce wedi bod yn rhan o baratoad y tîm saith bob ochr ar gyfer Gemau’r Gymanwlad yn Awstralia y mis nesaf.

Mae Robyn Wilkins a Hannah Jones hefyd yn dychwelyd.

Fe wnaeth Cymru guro’r Alban 18-17 ym Mae Colwyn wrth agor y bencampwriaeth, cyn colli 52-0 i Loegr a 35-12 i Iwerddon yn Donnybrook. Ar hyn o bryd maen nhw yn bedwerydd yn y tabl, tra bod yr Eidal ar y gwaelod ar ôl colli pob gêm hyd yma.