Mae’r Gweilch yn awyddus i roi cyfle i George North, y cawr o asgellwr o Fôn sydd wedi ei fedyddio yn ‘Gogzilla’.

Bydd George North yn cychwyn i Gymru yn erbyn Yr Eidal yn y Chwe Gwlad ddydd Sul.

Nid yw pethau yn dda gyda’i glwb, Northampton Saints, ac mae’r asgellwr eisoes wedi dweud ei fod yn dychwelyd i Gymru ar ddiwedd y tymor presennol.

Ond mae’r Gweilch wedi cynnig bod George North yn ymuno gyda nhw ar gyfer yr hyn sy’n weddill o’r tymor hwn.

Mae hyfforddwr Cymru, Warren Gatland, eisoes wedi dweud y byddai yn cefnogi George North pe bai yn dymuno dychwelyd i’w famwlad yn gynnar.