Mae’r chwaraewr rygbi rhyngwladol, Eli Walker, wedi cyhoeddi y bydd yn ymddeol o’r gêm.

Fe wnaeth yr asgellwr 25 oed o Abertawe ei ymddangosiad cyntaf i dîm cyntaf clwb y Gweilch yn ystod tymor 2012-13, gan wisgo’r crys coch am y tro cyntaf yn 2015, a hynny mewn gêm gyfeillgar yn erbyn Iwerddon.

Ond er gwaethaf ei ymdrechion i ddychwelyd i’r cae yn dilyn triniaeth y llynedd, mae’r asgellwr yn dweud nad yw e wedi gallu gwella’n iawn a dychwelyd at ei hen safon o chwarae.

Ac ar ôl ymgynghori ag arbenigwyr meddygol felly, mae Eli Walker wedi penderfynu rhoi’r gorau i chwarae’n broffesiynol.

Penderfyniad “anodd iawn”

“Mae’n beth anodd iawn i’w wneud i gydnabod a gwneud y penderfyniad bod yn rhaid ichi ymddeol o’r gêm,” meddai Eli Walker. “Ond mae’n bendant y peth iawn i mi wneud.

“Dw i wedi gweithion galed i geisio dychwelyd at le oeddwn i cyn y driniaeth. Ond, yn anffodus, dw i’n cydnabod nad ydw i’n gallu gwneud hynny.”

“Mae yna gymaint o atgofion ffantastig a fydd gyda fi am byth, ac mae’r gamp wedi fy ngalluogi i gwrdd â phobol sydd nawr yn ffrindiau da.”

“Dw i’n cyfrif fy hun yn ffodus.”