Gweilch 27–26 Cheetahs

Sicrhaodd cais hwyr Ifan Phillips a throsiad Sam Davies fuddugoliaeth ddramatig i’r Gweilch wrth iddynt groesawu’r Cheetahs i’r Liberty yn y Guinness Pro14 nos Sadwrn.

Wedi dim ond pum buddugoliaeth gynghrair trwy’r tymor, nid oedd chweched yn ymddangos yn debygol am rannau helaeth o’r gêm hon, ond newidiodd hynny yn yr eiliadau olaf.

Dechreuodd y Cheetahs ar garlam gan sgorio dau gais yn y chwarter awr cyntaf, y naill i Torsten van Jaarsveld a’r llall i Reniel Hugo.

Tri phwynt o droe Davies gyda chic olaf yr hanner a oedd unig bwyntiau’r Gweilch, 3-12 y sgôr wrth droi.

Sgoriodd Ashley Beck gais cyntaf y tîm cartref dri munud wedi’r egwyl ac rhoddodd trosiad Davies y Gweilch o fewn dau bwynt.

Ymatebodd yr ymwelwyr o Dde Affrica bron yn syth gyda chais Nico Lee, ac er i Sam Cross groesi i’r Gweilch wedi hynny, roedd y Cheetahs wedi sicrhau’r pwynt bonws cyn yr awr gyda chais Craig Barry.

Cymerodd Davies dri phwynt ddeuddeg munud o’r diwedd i roi’r Gweilch o fewn sgôr.

A thalodd y penderfyniad hwnnw ar ei ganfed ym munud olaf y gêm wrth i’r eilydd fachwr, Phillips, groesi i’r Cymry.

Ychwanegodd Davies y trosiad i sicrhau buddugoliaeth ddramatig i’r Gweilch, canlyniad sydd yn eu codi dros Connacht i’r pumed safle yn nhabl cyngres A y Pro14.

.

Gweilch

Ceisiau: Ashley Beck 43’, Sam Cross 54’, Ifan Phillips 79’

Trosiadau: Sam Davies 44’, 55’, 80’

Ciciau Cosb: Sam Davies 40’, 69’

.

Cheetahs

Ceisiau: Torsten van Jaarsveld 10’, Reniel Hugo 15’, Nico Lee 46’, Craig Barry 57’

Trosiadau: Daniel Marais 16’, 48’, 57’