Lyon 18–21 Gleision
Gorffennodd y Gleision grŵp 2 y Cwpan Her Ewrop gyda buddugliaeth oddi cartref yn erbyn Lyon yn Stadiwm Matmut nos Sadwrn.
Roedd y Cymry eisoes wedi sicrhau eu lle yn wyth olaf y gystadleuaeth gyda buddugoliaeth dros Toulouse yr wythnos diwethaf a gorffennodd tîm Danny Wilson y grŵp gyda buddugoliaeth arall yn erbyn tîm o Ffrainc.
Dechreuodd Lyon ar dân gyda chais Dylan Cretin yn y munud cyntaf ac roeddynt ddeuddeg pwynt ar y blaen wrth i’r egwyl agosáu diolch i gais Pierre-Louis Barassi.
Y Gleision a gafodd air olaf yr hanner serch hynny wrth i Lloyd Williams groesi o dan y psyt yn dilyn bylchiad Jarrod Evans, 12-7 y sgôr wedi trosiad Evans.
Rhoddodd cais cosb y Gleision ar y blaen yn gynnar yn yr ail hanner ond yn ôl y daeth Lyon gyda dwy gic gosb o droed Lionel Beauxis.
Ond wnaeth y Cymry ddim rhoi’r ffidl yn y to a hwy aeth â hi diolch i gais gan Williams arall, Tomos ar y cae yn lle Lloyd, a’r eilydd fewnwr yn creu argraff bron yn syth, yn sgorio’r cais buddugol ddeuddeg munud o’r diwedd.
Mae’r Gleision yn gorffen y grŵp ar y brig ond gêm oddi cartref fydd yn eu haros yn y rownd go-gynderfynol gan i enillwyr y bedair grŵp arall gasglu mwy o bwyntiau.
.
Lyon
Ceisiau: Dylan Cretin 1’, Pierre-Louis Barassi 24’
Trosiad: Lionel Beauxis 2’
Ciciau Cosb: Lionel Beauxis 54’, 63’
Cardiau Melyn: Theophile Cotte 47’, Pierre-Louis Barassi 57’
.
Gleision
Ceisiau: Lloyd Williams 40’, Cais Cosb 46’, Tomos Williams 68’
Trosiadau: Jarrod Evans 40’, 69’
Cerdyn Melyn: Jarrod Evans 52’