Clermont Auvergne 24–7 Gweilch

Mae breuddwyd Ewropeaidd y Gweilch drosodd am dymor arall wedi iddynt golli yn erbyn Clermont Auvergne yn y Stade Marcel-Michelin brynhawn Sadwrn.

Roedd angen buddugoliaeth ar y tîm o Gymru i gyrraedd wyth olaf Cwpan Pencampwyr Ewrop fel enillwyr grŵp 2 ond nid felly y bu wrth i’r Ffrancwyr ennill yn gymharol gyfforddus yn y diwedd.

Clermont a oedd y tîm gorau o dipyn yn yr hanner cyntaf a bu bron iawn i Remi Grosso agor y sgorio gyda chais cynnar yn y gornel chwith ond barnodd y dyfarnwr fideo fod troed yr asgellwr wedi cyffwrdd yr ystlys cyn iddo dirio.

Daeth cais haeddiannol i’r Ffrancwyr yn y diwedd chwarter awr cyn yr egwyl, Nick Abendanon yn tirio wedi cic ddeallus Morgan Parra dros yr amddiffyn.

Llwyddodd Parra gyda’r trosiad cyn ychwanegu dwy gic gosb cyn yr egwyl hefyd, 13-0 y sgôr wrth droi.

Er i Clermont ddechrau’n dda wedi’r egwyl hefyd fe gafodd y Gweilch eu cyfnod gorau toc cyn yr awr. Bu bron i Owen Watkin groesi o dan y pyst cyn i Ashley Beck wneud hynny yn y gornel chwith, 13-7 y sgôr wedi trosiad da Biggar o’r ystlys.

Dyna’r agosaf y daeth y Cymry mewn gwirionedd. Rhoddodd cic gosb yr un gan Parra a Greig Laidlaw olau dydd rhwng y ddau dîm cyn i gais hwyr Luke McAlister roi gwedd gyfforddus i’r sgôr.

Dim rygbi wyth olaf i’r Gweilch unwaith eto felly wrth iddynt orffen yn drydydd yng ngrŵp 2 ond ymdrech lew mewn grŵp anodd.

.

Clermont Auvergne

Ceisiau: Nick Abendanon 25’, Luke McAlister 79’

Trosiadau: Morgan Parra 26’

Ciciau Cosb: Morgan Parra 31’, 38’, 70’, Greig Laidlaw 76’, 80’

.

Gweilch

Cais: Ashley Beck 59’

Trosiad: Dan Biggar 60’