Mae hyfforddwr tîm rygbi Cymru dan 20 oed, Jason Strange, wedi cyhoeddi pwy fydd yn rhan o’r garfan ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad ym mis Chwefror.

Ymhlith yr enwau newydd sydd wedi cael eu dewis yw Dan Babos o’r Dreigiau, a Harri Morgan o’r Gweilch – a sgoriodd y nifer mwyaf o geisiadau i dîm Cymru dan 18 oed yn erbyn Lloegr y llynedd.

Mi fydd yr asgellwr Tomi Lewis, a serennodd tros saith bob ochr Cymru yn erbyn Dubai fis diwethaf, hefyd yn aelod o’r garfan.

Yn ôl yr hyfforddwr, y nod yw defnyddio gemau’r Chwe Gwald fel cyfle i baratoi a rhoi dyfnder i’r chwarae ar gyfer Cystadleuaeth Cwpan y Byd i’r rheiny dan 20 oed a fydd yn cael ei gynnal yn Ffrainc y flwyddyn nesaf.

“Beth sy’n dda am y garfan hon yw bod gennym ni dipyn o rannu cystadleuol,” meddai Jason Strange.

“Mae gyda ni gystadleuaeth gref yn y cefnwyr, tra bo’r blaenwyr hefyd mewn sefyllfa gryf.”

Y garfan

Blaenwyr: Taine Basham (Y Dreigiau), James Botham (Y Gleision), Rhys Carre (Y Gleision), Dan Davies (Scarlets), Rhys Davies (Caerfaddon), Lennon Greggains (Y Dreigiau), Will Griffiths (Y Dreigiau), Iestyn Harris (Y Gleision), Rhys Henry (Y Gweilch), Morgan Jones (Scarlets), Will Jones (Y Gweilch), Dewi Lake (Y Gweilch), Alun Lawrence (Y Gleision), Kemsley Mathias (Scarlets), Morgan Morris (Y Gweilch), Jack Pope (Penybont-ar-Ogwr), Tommy Reffell (Caerlŷr), Josh Reynolds (Y Dreigiau), Sam Wainwright (Rygbi Gogledd Cymru), Max Williams (Y Dregiau).

Cefnwyr: Dan Babos (Y Dreigiau), Corey Baldwin (Scarlets), Callum Carson (Y Gweilch), Ryan Conbeer (Scarlets), Rio Dyer (Y Dreigiau), Cai Evans (Y Gweilch), Joe Goodchild (Y Dreigiau), Aaron Hemmings (Scarlets), Ben Jones (Y Gleision), Tomi Lewis (Scarlets), Harri Morgan (Y Gweilch), Reuben Morgan-Williams (Y Gweilch), Ioan Nicholas (Scarlets), Carwyn Penny (Caerloyw), Tommy Rogers (Scarlets), Ben Thomas (Y Gleision).