Dreigiau 17–22 Gleision
Yr ymwelwyr aeth â hi yn y gêm ddarbi Gŵyl San Steffan rhwng y Dreigiau a’r Gleision yn y Guinness Pro14 ar Rodney Parade.
Roedd y Gleision yn gyfforddus ar y blaen hanner ffordd trwy’r ail hanner ac er i’r Dreigiau orffen yn gryf a chreu diweddglo agos, roedd yr ymwelwyr o Gaerdydd wedi gwneud digon i’w hennill hi.
Hanner Cyntaf
Dechreuodd y Dreigiau’n dda gan reoli’r tir, y meddiant a’r frwydr yn y sgrymiau ond methodd y tîm cartref a chreu argraff ar y sgôr-fwrdd, hyd yn oed gyda phrop y Gleision, Brad Thyer, yn y gell gosb.
Bu rhaid aros bron i hanner awr am y pwyntiau cyntaf a daeth y rheiny i’r Gleision gyda chic gosb o droed Gareth Anscombe.
Yr ymwelwyr a gafodd gais cyntaf y prynhawn hefyd diolch i Aled Summerhill dri munud cyn yr egwyl, symudiad da gan y Gleision ond elfen o lwc yn y diwedd wrth i’r bêl adlamu’n garedig i’r asgellwr yn y gornel chwith.
Daeth pwyntiau cyntaf y Dreigiau gyda chic gosb Gavin Henson ym munud olaf yr hanner, 3-8 y sgôr wrth droi.
Ail Hanner
Dechreuodd yr ail hanner gyda phatrwm tebyg iawn i’r cyntaf, y Dreigiau’n cael digon o’r gêm ond y Gleision yn cael y ceisiau.
Daeth un i Ray Lee-Lo ac un arall i Tom James wedi hanner bylchiad Matthew Morgan. Llwyddodd Anscombe gyda’r ddau drosiad ac roedd gan y Gleision fantais iach, 3-22 y sgôr gyda chwarter y gêm yn weddill.
Ond os oedd y Gleision yn llygadu pwynt bonws roedd gan y Dreigiau syniadau gwahanol.
Hyrddiodd Lloyd Fairbrother drosodd i roi llygedyn o obaith i’r tîm cartref ac roeddynt yn ôl o fewn sgôr wedi i sgarmes symudol effeithiol arwain at gais cosb chwe munud o’r diwedd.
Rheolodd yr ymwelwyr y gêm yn effeithiol yn y munudau olaf serch hynny gan ddal eu gafael i ennill y darbi.
.
Dreigiau
Ceisiau: Lloyd Fairbrother 65’, Cais Cosb 74’
Trosiad: Gavin Henson 66’
Cic Gosb: Gavin Henson 40’
.
Gleision
Ceisiau: Aled Summerhill 37’, Ray Lee-Lo 51’, Tom James 60’
Trosiadau: Gareth Anscombe 52’, 61’
Cic Gosb: Gareth Anscombe 28’
Cardiau Melyn: Brad Thyer 15’, Kirby Myhill 74’