Gallai Ulster fod wedi curo’r Dreigiau ar gae Rodney Parade neithiwr pe bai’r maswr Christian Lealiifano wedi llwyddo gyda throsiad hwyr.

Fe groesodd Angus O’Brien am gais hwyr i’r Dreigiau cyn i faswr yr ymwelwyr groesi am y cais i unioni’r sgôr.

Sgoriodd yr asgellwr Ashton Hewitt ddau gais i’r Cymry, yn ogystal â’r clo Matthew Screech a’r bachwr Liam Belcher cyn i Angus O’Brien ychwanegu’r pumed cais.

Ciciodd Gavin Henson gic gosb a dau drosiad.

Daeth ceisiau’r Gwyddelod gan Paul Marshall a dau i’r asgellwr Craig Gilroy, yn ogystal â chais cosb.

Ciciodd Christian Lealiifano gic gosb a throsiad cyn methu’r gic dyngedfennol.

Fe fu’r Cymry ar ei hôl hi o ddeuddeg pwynt ar un adeg er bod Jack Dixon wedi gweld cerdyn melyn am dacl flêr.