Gweilch 6–47 Glasgow

Mae tymor trychinebus y Gweilch yn y Guinness Po14 yn parhau wedi iddynt gael crasfa gan Glasgow ar y Liberty brynhawn Sul.

Sgoriodd yr Albanwyr saith cais i gyd mewn buddugoliaeth gyfforddus.

Daeth dau o’r ceisiau hynny yn yr hanner cyntaf wrth i’r haneri, Adam Hastings a George Horne, gael rhwydd hynt i ddawnsio trwy amddiffyn gwarthus y Gweilch.

Roedd dwy gic gosb o droed Sam Davies yn ddigon i gadw’r tîm cartref yn y gêm tan yr egwyl serch hynny ond roedd llawer gwaeth i ddodd yn yr ail hanner.

Croesodd Scott Cummings am drydydd cais Glasgow cyn i George Turner sicrhau’r pwynt bonws i’r Albanwyr gyda’r pedwerydd yn neg munud cyntaf yr ail gyfnod.

Ychwanegodd Horne ei ail ef a phumed ei dîm yn fuan wedyn cyn i ddau gais hwyr gan Brandon Thomson a Leonardo Sarto droi’r fuddugoliaeth gyfforddus yn gweir go iawn.

Mae’r canlyniad yn gadael y Gweilch ar waelod Cyngres A y Pro14.

.

Gweilch

Ciciau Cosb: Sam Davies 3’, 30’

.

Glasgow

Ceisiau: Adam Hastings 14’, George Horne 27’, 54’, Scott Cummings 43’, George Turner 47’, Brandon Thomson 77’, Leonardo Sarto 80’

Trosiadau: Adam Hastings 14’, 27’, 48’, 55’, 78’, 80’