Mae Robin McBryde wedi herio chwaraewyr ifanc Cymru i brofi eu gallu yn ystod y gêm gartref ddydd Sadwrn yn erbyn Georgia.

Mae’r Prif Hyfforddwr Warren Gatland wedi newid y tîm cryn dipyn yn dilyn gêm Awstralia penwythnos diwethaf.

Dim ond 29 cap sydd gan y pum chwaraewr yn rheng flaen Cymru.

“Mae’n rhaid i ni weld yr hyn maen nhw’n medru cynnig … a rhoi her i’r criw ifanc yma,” meddai’r Dirprwy Hyfforddwr, Robin McBryde.

“Mae’r chwaraewyr ifanc yma yn gwybod nad ydyn nhw’n dod ar draws y cyfle yn aml. Maen nhw’n gwybod bod angen iddyn nhw gipio’r cyfle [ddydd Sadwrn].”

“Rydym yn ceisio penderfynu ym mha chwaraewyr y dylwn ni fuddsoddi [ein hegni] wrth baratoi ar gyfer Cwpan y Byd.”

Cymru v Georgia yn fyw ar S4C, cic gyntaf am 2.30 yr hwyr.