Mae Warren Gatland wedi dweud y byddai’n croesawu’r cyfle i hyfforddi tîm rygbi’r Llewod yn Ne Affrica ymhen pedair blynedd.

Daw’r tro pedol ar ôl iddo ddweud ar ddiwedd y daith i Seland Newydd na fyddai’n hyfforddi’r tîm eto yn dilyn beirniadaeth gan y wasg leol yno.

Dywedodd bythefnos yn ôl ei fod e’n “casáu” y swydd, a’r “wasg a’u negatifrwydd”.

Ers iddo dderbyn y swydd yn 2013, mae e wedi arwain y Llewod i fuddugoliaeth dros Awstralia a chyfres gyfartal yn erbyn y Crysau Duon.

‘Anodd gwrthod y swydd’

Mewn cyfweliad â’r Mail on Sunday, dywedodd Warren Gatland: “Mae’n anodd gwrthod y swydd a cherdded i ffwrdd oddi wrthi.

“Fe wnes i’r sylwadau hynny am beidio â bod eisiau ei gwneud hi eto oherwydd ro’n i’n brifo.

“O ran hyfforddi’r Llewod, peidiwch byth â dweud ‘byth bythoedd’.”

Sean O’Brien

Un o’r chwaraewyr oedd yn feirniadol o ddulliau hyfforddi Warren Gatland ar y daith ddiweddaraf yn Seland Newydd oedd y blaenasgellwr Sean O’Brien.

Dywedodd Warren Gatland fod ei sylwadau wedi ei “siomi”.

“Ro’n i wedi siomi gyda’i sylwadau. Ro’n i’n meddwl ei fod e, wrth ddod allan a dweud y dylen ni fod wedi ennill o 3-0 yn amharchus tuag at Seland Newydd. Dyna lle collodd ei grediniaeth.

“Fe ddaeth e allan ac roedd e’n feirniadol ond beth oedd ei ateb? Doedd dim. Geiriau heb ateb oedden nhw. Os ydych chi’n mynd i ddod allan a dweud rhywbeth, rhowch yr ateb i ni.”