Gavin Henson
Ni fydd Gavin Henson yn chwarae i Toulon y tymor nesaf ar ôl i’r clwb benderfynu peidio cynnig cytundeb newydd iddo.
Mae llywydd Toulon, Mourad Boudjellal, wedi dweud wrth bapur newydd Var-Matin yn Ffrainc mai ysbryd y gafran fydd y flaenoriaeth y tymor nesaf.
Roedd y Cymro wedi ymuno gyda’r clwb Ffrengig ym mis Chwefror yn dilyn cyfnod byr gyda’r Saraseniaid.
Fe gafodd ei wahardd o chwarae gyda’r clwb am wythnos yn dilyn ffrae gyda rhai o’i gyd-chwaraewyr. Fe gafodd gyfle i chwarae yng ngêm olaf y tymor.
Mae Henson wedi ei enwi yng ngharfan Cymru ar gyfer y gêm yn erbyn y Barbariaid mis nesaf ac mae’n gobeithio ennill ei le yng ngharfan Cwpan y Byd yn Seland Newydd.