Jonathan Davies
Mae canolwr Cymru, Jonathan Davies, yn gobeithio y bydd yn cael y cyfle i chwarae gyda Gavin Henson yn erbyn y Barbariaid dechrau’r mis nesaf.
Dywedodd y byddai cael Henson ar ei ysgwydd yn rhoi’r cyfle iddo dorri drwy’r amddiffyn, fel yr oedd Regan King pan oedd yn chwarae dros y Scarlets.
Roedd Regan King yn dipyn o arbenigwr ar greu bylchau i Jon Davies ond erbyn hyn mae wedi gadael y Scarlets er mwyn ymuno gyda Clermont Auvergne yn Ffrainc.
“Rwy’n edrych ymlaen at weld Gavin yn ymarfer a gweld os oes rhywbeth i’w ddysgu ganddo,” meddai Jon Davies wrth bapur y Western Mail.
“Fe alle’n ni chwarae gyda’n gilydd yn erbyn y Barbariaid. Does dim sicrwydd o hynny eto ac mae’r cyfan yn dibynnu ar yr hyfforddwyr.
“Ond pe baen ni’n cael ein dewis gyda’n gilydd fe fydda i’n edrych ymlaen i gydweithio gydag ef.
“Mae Gavin yn chwaraewr talentog gyda’r bêl yn ei ddwylo ac hefyd wrth amddiffyn.
“Mae’n chwaraewr sy’n gallu creu cyfleoedd – mae’n ychwanegu llawer at y garfan ac yn benderfynol o gymryd ei gyfle.”