Stori'r tymor, meddai Nigel Davies
Scarlets 6 Munster 13

Roedd colli yn erbyn Munster yn dweud stori’r tymor i’r Scarlets, meddai eu prif hyfforddwr – chwarae’n dda ond methu ag ennill.

Camgymeriad gan y canolwr Regan King, o bawb, a roddodd y cais tyngedfennol i Munster a sicrhau mai nhw fydd ar frig y tabl ar ddiwedd cyfnod cynta’ Cynghrair Magners.

Mae hefyd yn golygu bod gobeithion y Scarlets o gyrraedd y rowndiau cwpan fwy neu lai ar ben ac fe fydd rhaid iddyn nhw frwydro i aros ar y blaen i’r Dreigiau a sicrhau trydydd lle Cymru yng Nghwpan Heineken y tymor nesa’.

“Mae yna linell y mae’n rhaid i’r tîm yma ei chroesi a mynd i’r arfer o ennill yw hynny,” meddai Nigel Davies wedyn. “D’yn ni ddim wedi croesi’r llinell honno eto.

“Mae yna ddigon o ymdrech a digon o safon ac r’yn ni’n gallu perfformio – ond rhaid i ni gyplysu hynny gydag ennill.”

Roedd yr hyfforddwr yn rhoi’r bai ar rai camgymeriadau ar adegau tyngedfennol, gan gynnwys methu cyfleoedd i s gorio.

Camgymeriad

Y Scarlets oedd wedi rheoli’r rhan fwya’ o’r hanner cynta’ ond 3-6 i Munster oedd hi ar yr egwyl ac fe ddaeth y Gwyddelod yn ôl yn fwy cadarn a phenderfynol – er i Rhys Priestland gael ail gic gosb ar ôl 51 munud.

Fe ddaeth y camgymeriad mwya’ o’r cyfan gyda’r cais, pan geisiodd Regan King dorri a rhoi pas uchelgeisiol – fe gafodd ei rhyng-gipio ac fe aeth Simon Zebo trosodd i sgorio gyda 12 munud ar ôl.

“Rwy’n credu bod y gêm yma’n crynhoi ein tymor mewn sawl ffordd – bron, ond dim cweit,” meddai Nigel Davies. “Mae’n siom anferth i ni achos yn lle cystadlu am le yn y pedwar ucha’, mae gyda ni frwydr ar ein dwylo.”

Roedd y Scarlets wedi bod yn y pedwar ucha’ am ran helaeth o’r tymor ond maen nhw bellach yn chweched gyda 52 pwynt a dim ond wyth o flaen y Dreigiau sydd ag un gêm wrth gefn.