Dywed prif hyfforddwr y Gweilch, Scott Johnson, na all guddio’i siom ar ôl gweld y ffordd y cafodd y Gweilch eu curo gan y Dreigiau neithiwr.

“Dw i’n hynod o siomedig gyda’r ffordd y gwnaethon ni chwarae,” meddai. “Ond peidiwn â thynnu dim byd oddi berfformiad ar y Dreigiau. Fe wnaethon nhw chwarae rygbi da gyda sgiliau gwych, ac fe wnaethon nhw fanteisio ar rai o’n camgymeriadau.

“Yr hyn oedd yn siomedig gyda ni oedd ein bod ni yn y gêm tan hanner amser, roedd hi’n dynn, ond fe wnaeth ein camgymeriadau ni adael iddyn nhw gael rhwydd hynt yn y trydydd chwarter a’n gadael ni gyda gormod i’w wneud at y diwedd.

“Fe fydd gêm gyn-derfynol gartref yn galed nawr. Os cawn ni naw o bwyntiau yn y gemau nesaf mae’n debyg y byddwn ni drwodd, ond rhaid inni sicrhau ein bod ni’n chwarae’n rhan.”

Wrth esbonio’i benderfyniad i beidio â dewis Mike Phillips, a gyhoeddodd yr wythnos yma y bydd yn gadael ddiwedd y tymor, dywedodd Scott Johnson nad oedd hynny’n golygu o angenrheidrwydd na fyddai’n chwarae’r un gêm  i’r Gweilch eto.

“Doeddwn ni ddim yn meddwl ei bod hi’n addas i gynnwys Mike yr wythnos yma,” meddai. “Gyda’r holl sylw yn y cyfryngau ac amgylchedd bur elyniaethus, doeddwn i ddim yn teimlo y byddai hynny’n deg ar y bachgen.

“Nid dyna’r cyfle olaf inni ei weld, bydd yn cael ei ystyried ar gyfer ei ddewis yr wythnos nesaf.”