Aled Brew - dau gais ac un smonach
Dreigiau 32 Gweilch 28

Fe lwyddodd Dreigiau Gwent i ddal eu tir a chyflawni’r dwbl tros y Gweilch mewn gêm ryfeddol yng Nghynghrair Magners yn Rodney Parade.

Tua hanner ffordd trwy’r ail hanner, roedd y tîm cartref 32-11 ar y blaen ac fe fu’n rhaid iddyn nhw amddiffyn yn ffyrnig i rwystro’r Gweilch rhag cipio’r gêm o dan eu trwynau.

Mae’n golygu bod y Dregiau’n cadw mymryn o obaith o gyrraedd Cwpan Heineken y flwyddyn nesa’ ond, er eu bod yn aros yn drydydd, mae’n dolc i obeithion y Gweilch o gyrraedd pedwar ola’r Magners.

Mae Leinster a’r Gleision bellach o fewn dau bwynt iddyn nhw ac wedi chwarae un gêm yn llai.

Y Dreigiau ar y blaen

Y Gweilch oedd wedi sgorio gynta’ trwy gic gosb gan y maswr Dan Biggar ond fe gafodd y Dreigiau gais o fewn pum munud gyda’r wythwr bywiog, Toby Faletau’n cydweithio gydag Ashley Smith i roi hwnnw trosodd.

Fe drawodd y Gweilch yn ôl wrth i’r canolwr James Hook greu cais i’r wythwr Ryan Jones ond, er i’r asgellwr Aled Brew wneud smonach o gyfle gwych i’r Dreigiau ar ôl curo pawb at gic trwodd, roedd ciciu cosb yn golygu mai 13-11 i’r Dreigiau oedd hi ar yr hanner.

Yr ail hanner

O fewn pum munud roedden nhw ymhellach ar y blaen ar ôl i’r mewnwr, Wayne Evans, groesi o sgrym ac wedyn fe wnaeth asgellwr y Gweilch Tommy Bowe lanast wrth geisio clirio ac fe sgoriodd Aled Brew.

Roedd yna ail gais i’r asgellwr wrth iddo redeg yn glir o hanner ffordd ac roedd hi’n ymddangos bod y Dreigiau am ennill yn gyfforddus.

Wedyn, fe ddaeth y taro’n ôl, gyda Hook wedi symud i safle’r maswr yn creu ceisiau i Tommy Bowe a’i gyd asgellwr Nikki Walker. Ac, wrth gicio’r trosiadau, fe ddaeth yn brif sgoriwr y Gweilch ar 790 – ddau o flaen Gavin Henson.

Ond, er bod y Gweilch ar linell y Dreigiau am y munudau ola’, roedd y tîm o Went yn ddigon cry’ i ennill ac i gynnal eu record dda ers i’r cael gwared ar y cyn-hyfforddwr Paul Turner.