Nigel Davies yw prif hyfforddwr Scarlets Llanelli
Mae’r Scarlets wedi arwyddo pum chwaraewr Cymreig ifanc wrth i’r rhanbarth barhau i baratoi ar gyfer y tymor nesaf.
Mae’r mewnwr Gareth Davies a’r asgellwr Nick Reynolds wedi derbyn cytundebau llawn gyda’r garfan.
Mae’r maswr Owen Williams, y cefnwr Liam Williams a’r canolwr Chris Keenan wedi cael cytundebau datblygu gyda’r Scarlets.
“Mae ein hethos o fuddsoddi yn nhalent ifanc y rhanbarth wedi talu ar ei ganfed ac mae hyn i’w weld gyda’r nifer o chwaraewyr ifanc sydd wedi cael cyfle i chwarae i’r prif dîm eleni,” meddai Prif Hyfforddwr y Scarlets, Nigel Davies.
“Maen nhw i gyd yn ymwybodol y daw cyfleoedd iddyn nhw wrth aros gyda’r Scarlets a dangos balchder yn y crys.
“Mae cyflwyno chwaraewyr ifanc i’r garfan yn ychwanegu elfen o gystadleuaeth, egni ac mae’n creu awyrgylch da i ni’r hyfforddwyr.
“Mae’r chwaraewyr yma i gyd yn unigolion talentog ac maen nhw’n awyddus i ddatblygu yn y rhanbarth ochr yn ochr â chwaraewyr profiadol.
“R’y ni’n edrych ymlaen at y tymor newydd ac rydym ni wedi sicrhau talent newydd ar gyfer y tymor sydd i ddod. Mae gyda ni digon o gred yn ein chwaraewyr ifanc a chwaraewyr sy’n datblygu o fewn y rhanbarth.”
Fa’amatuainu yn gadael
Mae’r Scarlets wedi cyhoeddi y bydd Jonny Fa’amatuainu yn gadael y rhanbarth ar ddiwedd y tymor.
Ymunodd y chwaraewr o Seland Newydd ar gytundeb benthyg o Gaerfaddon yn ystod yr haf y llynedd.
“Mae Jonny wedi bod yn wych i ni. Mae wedi dod ag egni arbennig i’r lle ac fe hoffwn ddiolch iddo am yr hyn y mae wedi ei wneud i ni,” meddai Nigel Davies.