gareth
Gareth Thomas
Mae Gareth Thomas yn credu y bydd y Crusaders yn gwella yn dilyn eu buddugoliaeth dros y Salford City Reds y penwythnos diwethaf.

Dyma’r ail fuddugoliaeth yn unig i’r tîm y tymor yma, ar ôl iddyn nhw guro Salford ar y penwythnos agoriadol yn Stadiwm y Mileniwm ym mis Chwefror.

Er eu bod nhw wedi ennill dwy gêm dyw’r clwb Cymreig heb bwynt yn y tabl ar ôl cael eu cosbi am fynd i ddwylo’r gweinyddwyr y llynedd.

Mae Gareth Thomas yn credu y gallai’r Crusaders ddefnyddio’r canlyniad yn erbyn Salford i ysgogi’r tîm am weddill y tymor.

“Roedd rhaid i ni brofi nad oedden ni’n dîm oedd yn mynd i golli bob wythnos,” meddai Thomas.

“Pan ydych chi’n ennill mae’n mynd yn arferiad ac mae’r un peth yn wir am golli hefyd.  Mae pethau’n mynd yn anodd pan ydych chi’n colli’n gyson. Rydych chi’n gweithio’n galed ond ddim yn cael unrhyw wobr amdano.

“Roedd yn wych cael curo Salford, ond beth oedd yn well oedd y ffordd enillwyd y gêm.

“Roedd yn gêm anodd ond roedden ni wedi dangos ein bod ni’n gallu brwydro’n galed am fuddugoliaeth.

“Rwy’n credu mai’r amddiffyn enillodd y gêm i ni. Roedden ni dan bwysau am gyfnodau o’r gêm ond roedd yr amddiffyn yn gadarn.

“Mae’n hwb mawr adennill y pwyntiau coll ond mae’n rhaid i ni barhau i ennill er mwyn codi yn uwch yn y tabl.”