Newcastle 32–27 Dreigiau

Bu rhaid i’r Dreigiau fodloni ar bywnt bonws yn unig wrth iddynt deithio i Kingston Park i wynebu Newcastle yn eu gêm agoriadol yng Nghwpan Her Ewrop brynhawn Sadwrn.

Sefydlodd y tîm cartref fantais yn yr hanner cyntaf cyn i’r ymwelwyr o Gymru daro nôl i wneud gêm ohoni wedi’r egwyl.

Dwy gic gosb o droed Angus O’Brien a oedd unig bwyntiau’r Dreigiau yn yr hanner cyntaf wrth i’r tîm cartref droi gyda naw pwynt o fantais diolch i geisiau Rob Vickers ac Adwan Radwan.

Tarodd y Cymry nôl yn gynnar yn yr ail hanner gyda chais yr un i Rynanrd Landman ac Ashton Hewitt yn y deg munud cyntaf.

Ymatebodd Newcastle gyda dau gais eu hunain gan Garry Graham a Mark Wilson ac fe brofodd hynny’n ddigon er gwaethaf sgôr Pat Howard i Wŷr Gwent.

.

Newcastle

Ceisiau: Rob Vickers 14’, Adwan Radwan 38’, Garry Graham 52’, Mark Wilson 62’

Trosiadau: Toby Flood 14’, 52’, 62’

Ciciau Cosb: Toby Flood 25’, 77’

.

Dreigiau

Ceisiau: Rynard Landman 42’, Ashton Hewitt 50’, Pat Howard 58’

Trosiadau: Angus O’Brien 43’, 51’, 58’

Ciciau Cosb: Angus O’Brien 21’, 33’