Gleision 29–19 Lyon

Dechreuodd y Gleision eu hymgyrch Cwpan Her Ewrop gyda buddugoliaeth bwynt bonws yn erbyn Lyon ar Barc yr Arfau nos Wener.

Sgoriodd y tîm cartref ddau gais cyn yr egwyl cyn croesi am ddau arall i sicrhau’r pwynt bonws yn yr ail hanner cyn i’r Ffrancwyr orffen yn gryf i roi gwedd gamarweiniol o agos ar y sgôr.

Roedd y Gleision bedwar pwynt ar ddeg ar y blaen wrth droi diolch i gais yr un gan George Earle a Tom Williams a dau drosiad Jarrod Evans.

Roedd y fuddugoliaeth yn ddiogel diolch i gais Macauley Cook ddeuddeg munud wedi’r egwyl a sicrhaodd sgôr Ray Lee-Lo bwynt bonws toc wedi’r awr.

Croesodd Lyon am dri chais yn y chwarter olaf on rhy ychydig rhy hwyr oedd hynny i’r Ffrancwyr.

.

Gleision

Ceisiau: George Earle 23’, Tom Williams 31’, Macauley Cook 52’, Rey Lee-Lo 65’

Trosiadau: Jarrod Evans 24’, 32’, 66’

Cic Gosb: Steve Shingler 76’

Cerdyn Melyn: Kristian Dacey 59’

.

Lyon

Ceisiau: Virgile Bruni 60’, Pierre-Louis Barassi 69’ Jone Tuva 79’

Trosiadau: Piero Dominguez 60’, Jonathan Pelisse 70’

Cardiau Melyn: Timilai Rokoduru 73’, Etienne Oosthuizen 75’