Scarlets 36–27 Connacht 

Cafwyd perfformiad ymosodol adloniadol arall gan y Scarlets wrth i’w dechrau da i’r tymor yn y Guinness Pro14 barhau gyda buddugoliaeth gartref yn erbyn Connacht ar Barc y Scarlets nos Wener.

Sicrhaodd Bois y Sosban bwynt bonws gyda phedwar cais yn yr hanner cyntaf ond roedd y Gwyddelod yn chwarae’n dda hefyd ac nid oedd buddugoliaeth y Scarlets yn ddiogel tan i Tadhg Beirne groesi am gais ym munudau olaf y gêm.

Roedd cais yr un i’r ddau dîm yn y deg munud cyntaf wrth i Jonny McNicholl groesi i’r tîm cartref cyn i Jack Carty sgorio i Connacht.

Ymunodd Steff Evans yn yr hwyl wedi hynny, yn sgorio un cais unigol gwych cyn creu un i Rhys Patchell.

Tarodd yr ymwelwyr yn ôl gyda chais yr un i Cian Kelleher a Tiernan O’Halloran cyn i Leigh Halfpenny groesi am bedwerydd y Scarlets i sicrhau’r pwynt bonws cyn troi.

Arafodd y sgorio wedi’r egwyl ond rhoddodd ail gais i O’Halloran yn y deg munud olaf Connacht o fewn dau bwynt i’r Scarlets.

Yn ffodus i’r tîm cartref fe fethodd Carty’r trosiad ac fe amddifadwyd yr ymwelwyr o bwynt bonws hyd yn oed wrth i’r Gwyddel yn nhîm y Scarlets, Beirne, groesi am gais olaf y gêm dri munud o’r diwedd.

Mae’r canlyniad yn cadw’r Scarlets ar frig tabl Cyngres B y Pro14.

.

Scarlets

Ceisiau: Jonny McNicholl 7’, Steff Evans 17’, Rhys Patchell 24’, Leigh Halfpenny 38’, Tadhg Beirne 77’

Trosiadau: Leigh Halfpenny 8’, 26’, 39’, 79’

Ciciau Cosb: Leigh Halfpenny 57’

.

Connacht

Ceisiau: Jack Carty 9’, Cian Kelleher 30’, Tiernan O’Halloran 35’, 73’

Trosiadau: Jack Carty 10’, 31’

Cic Gosb: Jack Carty 22’