Scarlets 28–8 Caeredin

Cafodd y Scarlets fuddugoliaeth bwynt wrth i Gaeredin ymweld â Pharc y Scarlets yn y Guinness Pro14 nos Sadwrn.

Sgoriodd Bois y Sosban ddau gais yn yr hanner cyntaf cyn croesi am ddau arall yn yr ail gyfnod wedi i brop Caeredin, Michele Rizzo, dderbyn cerdyn coch.

Y tîm cartref a ddeuchreuodd orau ac roeddynt yn llawn haeddu mynd ar y blaen hanner ffordd trwy’r hanner cyntaf diolch i gais Rhys Patchell yn dilyn cic gosb gyflym Gareth Davies.

Ar ôl creu’r cais cyntaf, fe sgoriodd Davies yr ail ei hunan ac roedd gan ei dîm bedwar pwynt ar ddeg o fantais wedi dau drosiad gan Leigh Halfpenny.

Roedd hi’n ymddangos y byddai hi’n aros felly tan hanner amser cyn i Duncan Weir gicio pwyntiau cyntaf yr ymwelwyr o’r Alban bum munud cyn yr egwyl.

Ac roedd sgôr arall i Gaeredin cyn troi hefyd wrth i’r Cymro yn nhîm yr Albanwyr, Jason Harries, groesi ar yr asgell chwith i gau’r bwlch i chwe phwynt.

Y Scarlets a ddechreuodd yr ail hanner orau ac roedd eu tasg yn un dipyn haws wedi i Rizzo gael ei anfon oddi ar y cae am chwarae peryglus. Dilynodd cais i Werner Kruger yn syth wrth i’r prop sgorio o’r lein bump.

Gyda’r fuddugoliaeth fwy neu lai yn ddiogel, roedd pwynt bonws o fewn golwg Bois y Sosban. Daeth hwnnw toc wedi’r awr gyda chais gorau’r gêm, Aaron Shingler yn croesi’n y gornel chwith i gwblhau symudiad tîm arbennig o dda.

Roedd ugain pwynt rhwng y ddau dîm wedi pedwerydd trosiad llwyddiannus Halfpenny ac roedd hynny’n hen ddigon i’r Scarlets, 28-8 y sgôr terfynol.

.

Scarlets

Ceisiau: Rhys Patchell 20’, Gareth Davies 31’, Werner Kruger 47’, 63’

Trosiadau: Leigh Halfpenny 22’, 33’, 48’, 64’

.

Caeredin

Cais: Jason Harries 39’

Cic Gosb: Duncan Weir 36’

Cerdyn Coch: Michele Rizzo 46’