Ulster 52–25 Dreigiau

Croesodd Ulster am wyth cais wrth iddynt roi crasfa iawn i’r Dreigiau wrth iddynt ymweld â Stadiwm Kingspan yn y Guinness Pro14 nos Wener.

Gwnaeth y Dreigiau lu o newidiadau i’r pymtheg a gafodd fuddugoliaeth yn erbyn Connacht y penwythnos diwethaf, ac roedd Ulster yn rhy gryf o lawer i dîm Bernard Jackman yr wythnos hon.

Roedd cais yr un i Stuart McCloskey, Peter Nelson, Nick Timoney a Wiehahn Herbst yn ogystal â chais cosb i’r tîm cartref yn yr hanner cyntaf.

Ychwanegodd y Gwyddelod dri arall wedi’r egwyl gyda Jacob Stockdale, Nick Timoney a David Shanahan yn croesi.

Sgoriodd y Dreigiau dri chais eu hunain diolch i Rhys Buckley, Dane Blacker a Will Talbot-Davies ond dim ond un tîm a oedd ynddi wrth i Ulster ennill yn gyfforddus.

.

Ulster

Ceisiau: Stuart McCloskey 3’, Peter Nelson 12’, Cais Cosb 20’, Nick Timoney 25’, Wiehahn Herbst 29’, Jacob Stockdale 44’, Nick Timoney 49’ David Shanahan 63’

Trosiadau: Peter Nelson 13’, 26’, 30’, 50’, Brett Herron 64’

Cerdyn Melyn: Rodney Ah You 80’

.

Dreigiau

Ceisiau: Rhys Buckley 35’, Dane Blacker 57’, Will Talbot-Davies 80’

Trosiadau: Dorian Jones 35’, Angus O’Brien 58’

Ciciau Cosb: Dorian Jones 7’, 16’

Cerdyn Melyn: Lloyd Fairbrother 21’