Mae blaenasgellwr ochr agored y Scarlets, James Davies yn cael llawdriniaeth ar ei ysgwydd heddiw fydd yn ei gadw allan o’r gêm am dri mis. Er iddo ddechrau’r tymor yn ei steil ffrwydrol arferol penderfynwyd nad oedd y gwaith adferol dros yr haf yn ddigon i wella’r broblem a ddaeth i’r amlwg y tymor diwethaf.

Mi fydd y llawdriniaeth yn ei gadw allan o garfan Cymru am gemau’r hydref ac yn golygu y bydd ‘Cubby Boi’ yn colli pedair  rownd gyntaf Cwpan y  Pencampwyr.