Mae’r Gweilch wedi arwyddo Guy Mercer o Gaerfaddon ar fenthyg am dymor.

Mae’n ymuno â’r chwaraewyr rhyngwldol Cory Allen a James Hook, a’r chwaraewr saith bob ochr Sam Cross fel wynebu newydd yn y garfan.

Mae’r blaenasgellwr wedi dechrau ymarfer gyda’r garfan wrth iddyn nhw baratoi i herio’r Zebre yn eu gêm PRO14 gyntaf ddydd Sadwrn (2.30pm).

Roedd e’n aelod o dîm Caerfaddon oedd wedi herio’r Gweilch mewn gêm baratoadol yn Stadiwm Liberty ddechrau’r mis.

Yn ôl y prif hyfforddwr Steve Tandy, fe fydd Guy Mercer yn cynnig mwy o brofiad i’r garfan ac yn hwb i’r rheng ôl.

“Mae arwyddo chwaraewr o safon a phrofiad Guy Mercer yn newyddion gwych i ni ac fe fydd yn hwb i bawb cyn dechrau’r PRO14 y penwythnos hwn.

“Mae e’n awyddus iawn i ddod yma a dechrau gwthio’i hun yn y cyfeiriad cywir a chystadlu i gael ei ddewis. Bydd e’n cynnig opsiwn arall i ni o safon uchel.”

Ychwanegodd fod cyn-gapten Caerfaddon yn “arweinydd naturiol” a bod ganddo fe “nodweddion arbennig”.

Gyrfa

Chwaraeodd Guy Mercer mewn mwy na 120 o gemau dros Gaerfaddon ar ôl dod drwy rengoedd Academi’r clwb.

Mae’n fwyaf adnabyddus fel blaenasgellwr cryf yn ardal y dacl.

Cafodd ei benodi’n gapten ar dîm Caerfaddon y tymor diwethaf, ac mae disgwyl iddo fe fod yn un o chwaraewyr allweddol rhanbarth y Gweilch eleni.