Liam Williams yw cefnwr y Llewod
Mae un o ddynion doeth rygbi Cymru wedi dweud wrth gylchgrawn Golwg bod yn rhaid i’r Llewod drechu Seland Newydd yn y prawf cyntaf yfory, os ydyn nhw am gael unrhyw obaith o ennill y gyfres o dair prawf.

Yn ogystal â bod yn gapten ac yn hyfforddwr tîm rygbi Cymru, Clive Rowlands oedd rheolwr y Llewod a lwyddodd i drechu Awstralia 2-1 yn y profion ar y daith yno yn 1989.

“I fod yn onest, mae yn rhaid i’r Llewod ennill y prawf cyntaf. Dyna’r peth pwysicaf i gyd,” meddai Clive Rowlands.

“Mae [buddugoliaeth] yn dodi’r pwysau yn ôl ar y Crysau Duon.

“Ac efallai wedyn bydden nhw yn dechrau newid eu tîm. Dyna’r peth pwysig.

“Ac wrth gwrs, os ydych chi yn ennill y gêm, chi sydd yn rheoli’r gyfres hefyd.”

Mae Clive Rowlands yn disgwyl gweld “gêm gyflym iawn” gan Seland Newydd, a’r Llewod yn defnyddio pac cryf i geisio arafu’r chwarae.

“Y peth fydd raid i Gatland a’r Llewod wneud, yw gwneud yn siŵr bod pêl Seland Newydd yn araf iawn.”

Rhagweld rhyfel

Mae un o gyn-flaenwr Cymru fydd yn dadansoddi’r gêm fawr ar raglen uchafbwyntiau S4C, yn credu bod gan y Llewod y gêm i drechu’r Crysau Duon.

“Ar y daith mor belled, ryden ni wedi gweld y Llewod yn gwella fel mae’r daith wedi mynd yn ei blaen,” meddai Dafydd Jones a chwaraeodd 42 o weithiau dros ei wlad.

“Heb os, dydd Sadwrn diwethaf oedd y perfformiad gorau eto, ac mae cyfle gyda nhw yn y prawf cyntaf…

“Mae’n amlwg mai cynllun Gatland yw pŵer ymhlith yr wyth blaen, cicio a cheisio rhoi’r gwrthwynebwyr o dan bwysau… bydden i yn disgwyl i Connor Murray, y rhif naw, gicio yn uchel o’r bocs, sydd yn lot fwy effeithiol na chicio yn hir a gwahodd Seland Newydd i ymosod.

“Mae’r gêm gyntaf hyn yn mynd i fod yn titanic battle! Fel war zone… diddorol dros ben a ffyrnig iawn.”

Rhagor am yr ornest yn rhifyn yr wythnos o gylchgrawn Golwg