Llwyddodd y Llewod i guro’r Chiefs o 34 i 6 yn Stadiwm Waikato y bore yma.

Mae’r canlyniad yn golygu fod y Llewod bellach wedi ennill 4 o 6 gêm hyd yn hyn.

Daw hyn fel hwb i’w hyder ar drothwy eu prawf cyntaf yn erbyn Seland Newydd ym mharc Eden, Auckland ddydd Sadwrn (Mehefin 24).